Oes gennych chi ddiddordeb mawr neu brofiad yn un o feysydd cystadleuol yr ŵyl?
Os felly, beth am ein helpu ni i siapio ein rhaglen gystadlaethau ar gyfer y dyfodol?
Rydyn ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig ac egnïol i ymuno â’n panelau canolog i’n helpu ni i baratoi testunau difyr a diddorol, a chynnig barn am yr Eisteddfod a’i gwaith yn flynyddol.
Mae gan bob un o adrannau cystadleuol yr Eisteddfod banel canolog, sy’n cynnwys hyfforddwyr, cystadleuwyr, cynrychiolwyr o sefydliadau perthnasol ac unigolion sydd â diddordeb yn y maes.
Rydyn ni’n awyddus i recriwtio aelodau newydd i nifer o’r panelau, ac yn arbennig o awyddus i glywed gan ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd a / neu lai hyderus, ynghyd ag aelodau o gymunedau ethnig amrywiol ac unigolion sy’n ystyried eu hunain yn anabl.
Sut i ymgeisio
Cwblhewch y ffurflen isod. Y dyddiad cau i ymgeisio yw 23:59 nos Wener 12 Medi, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i fynychu cyfarfod y panelau ddiwedd Medi.
Chwilio am ragor o wybodaeth?
Ebostiwch cystadlu@eisteddfod.cymru