Llwyfan y Maes

Band ifanc o’r Barri sy’n cyfansoddi a chwarae cymysgedd o roc melodig ac amgen

Yn chwarae yn bennaf yn Gymraeg, Dagrau Tân yw Elian Davies, Steffan Lloyd, Josh Lewis a Rhydian Carnie.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r band wedi perfformio mewn nifer o gigs lleol megis Gŵyl Fach y Fro, Parti Ponty, Tafwyl, Aduniad Teulu Anthem Cymru, Digwyddiadau Dydd Miwsig Cymru, Gŵyl y Glannau a Gŵyl Fwyd y Barri, Clwb y Bont, Clwb Canna a Gŵyl Croeso Abertawe.

Fel rhan o brosiect Sound Progression maent wedi perfformio mewn nifer o nosweithiau hybu cerddorion ifanc mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd, gan gynnwys yng Nghlwb Ifor Bach.

Maen nhw newydd gael gwahoddiad i berfformio yng Ngŵyl Genedlaethol Cerddoriaeth i Ieuenctid yn Neuadd Symffoni Birmingham ar ôl cael eu dewis mewn gŵyl ranbarthol ym mis Mawrth

Youtube Instagram Facebook