Cymdeithasau

Straeon o lygad y ffynnon am brofiadau amrywiol menywod o addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf. Rhan o brosiect 'Gwlad Newydd y Merched' Merched y Wawr yn y De-ddwyrain a De Powys, gyda grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol


Sut beth yw bod mewn ysgol Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf? A fuodd yna ddiffyg darpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardal? Beth wnaeth rhieni i sicrhau fod yna Gymraeg yn y dosbarth? Cawn gyfle i glywed lleisiau'r menywod sydd wedi cael profiadau amrywiol, heriol a chyfoethog wrth ymwneud ag addysg Gymraeg