Tŷ Gwerin

Dewch i wrando ar dalentau pedair o artistiaid gwerin amlycaf Cymru: Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym

Enillodd eu halbwm cyntaf, 'Mae 'na Olau', wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd llynedd ac mae eu perfformiadau byw niferus wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd gyda'u harmonïau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiad ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi

X Instagram