Cyflwynir Tlws y Cyfansoddwr i’r cyfansoddwr / crëwr cerddoriaeth fwyaf addawol ar gyfer cyfansoddiad i ensemble siambr gan ddefnyddio delweddau o Rondda Cynon a Thaf fel ysbrydoliaeth
Mae Lowri Mair Jones, Nathan James Dearden a Tomos Williams yn gweithio gyda'r cyfansoddwr, John Rea a phedwarawd o Sinfonia Cymru i greu cyfansoddiadau newydd ers dechrau'r flwyddyn, a pherfformir eu gweithiau am y tro cyntaf heno. Cyhoeddir enw'r enillydd ar ddiwedd y seremoni gyda chyflwyno'r Tlws a'r wobr ariannol (John a Janice Samuel, Sidcup, Swydd Gaint, er cof am rieni John, David Hopkin a Gwenllian Samuel, Abernant, Aberdâr)
Cynhelir y gystadleuaeth mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd, Sinfonia Cymru a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru.
Beirniaid: John Rea, Steph Power, Dyfan Jones