Tŷ Gwerin

Y canwr a'r cyfansoddwr Tecwyn Ifan fydd yn swyno'r babell yn y sesiwn hon


Bu’n aelod o grwpiau Perlau Taf ac Ac Eraill yn y chwedegau a'r saithdegau a bu'n canu a chyfansoddi ar ei ben ei hun ers 1975. Mae wedi cyfansoddi caneuon ar gyfer sioeau cerdd hefyd gan gynnwys opera roc ‘Nia Ben Aur’ sy'n cael ei pherfformio ar ei newydd wedd yn yr Eisteddfod eleni i nodi ei 50 mlwyddiant

Mae’n frodor o Sir Benfro, ond bellach wedi ymgartrefu yn Nyffryn Conwy gyda'i wraig, Rhiannon. Ers 1977 mae wedi rhyddhau 10 record/CD yn cynnwys ‘Y Dref Wen’, ‘Stesion Strata’, ‘Sarita’, a’r ddiweddaraf, ‘Santa Roja’ yn 2021