Pafiliwn

Beirniaid: Lyn Davies, Katie Thomas a Stephen Jackson

Rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad hyd at 12 munud, i gynnwys darn digyfeiliant a darn gan gyfansoddwr o Gymro. Gellir dewis darn digyfeiliant gan gyfansoddwr o Gymro

Gwobrau:

  • Cwpan Cymdeithas Corau Meibion Cymru i'w ddal am flwyddyn a Medal Goffa Ivor E Sims i arweinydd y côr buddugol a £750 (Teulu Phillips, er cof am ein hen ewythrod, David E Phillips (Ysgrifennydd Cyffredinol), John a William Phillips (aelodau Pwyllgor Gwaith) a fu’n rhan o drefnu Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd 1893)
  • £500 (Susan Lewis a Geraint Davies, Er cof am eu tad, John Haydn Davies)
  • £300 (Chris Stephen, er cof cariadus am Gwen Blundy, wedi mynd ond yn cael ei chofio bob dydd)

Ni chaniateir i unrhyw gôr ailganu cân mewn categori arall adeg yr ŵyl