Maes D

Cyfle i flasu bwyd a chyflwyno llyfr coginio newydd y prosiect, 'Cwm Cynon, Cymuned Goginio'

Nod y prosiect yw helpu pobl drwy argyfwng costau byw drwy gefnogi pantris a thyfwyr bwyd lleol a datblygu sgiliau coginio'r gymuned ar gyllideb, lleihau gwastraff bwyd ac arddangos y cyfoeth o ryseitiau yng Nghwm Cynon.

Mae'r llyfr coginio wedi'i greu ar gyfer y prosiect gyda phob rysáit wedi ei brofi a'i adolygu gan bobl leol a'r cynhwysion yn dod o ffynonellau lleol gymaint â phosibl.

Trefnir y digwyddiad gan Strategaeth Bryncynon, gyda chyllid gan Grant Cymunedol CBSRhCT trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU