Pafiliwn

Beirniaid: Charlie Lovell-Jones, Dean Wright, Huw Warren, Katherine Thomas a Meurig Bowen

Cyflwyno rhaglen o un darn neu ragor mewn rhaglen o hyd at 12 munud

Gwobrau:

  • Rhuban Glas offerynnol 16 ac o dan 19 oed, £1,500 Ysgoloriaeth Leslie Wynne-Evans | £500 Ysgoloriaeth Rachael Ann Thomas i'r enillydd. Mae'r ysgoloriaeth yn agored i unrhyw berson a anwyd yng Nghymru neu y ganwyd un o’i r/rhieni yng Nghymru, neu unrhyw berson sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru am y 3 blynedd cyn 31 Awst 2024, neu unrhyw berson sy’n siarad neu’n ysgrifennu Cymraeg. Diben yr ysgoloriaeth yw hyrwyddo gyrfa’r enillydd fel offerynnwr. Ni all unrhyw un dderbyn yr un ysgoloriaeth fwy nag unwaith, ond gellir cystadlu fwy nag unwaith i ennill y gwobrau a £75 (Geraint Davies a Susan Lewis, er cof am John Haydn Davies Arweinydd Côr Meibion Treorci)
  • £50 (Rhys a Trish Huws, i goffau bywyd cerddorol y pentref ganol y ganrif ddiwethaf)
  • £25

Mae pob cystadleuydd yn gyfrifol am ei gyfeiliant ei hun. Caniateir cyfeiliant byw neu ar drac sain. Ni ddarperir cyfeilydd swyddogol.