Pafiliwn

Rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad hyd at 12 munud, i gynnwys darn digyfeiliant a darn gan gyfansoddwr o Gymro. Gellir dewis darn digyfeiliant gan gyfansoddwr o Gymro

Gwobrau:

  • Cwpan OR Owen (Owen Gele) i'w ddal am flwyddyn a Medal Goffa Hilda Morgan i'w dal am flwyddyn i arweinydd y côr buddugol a £750 (Penri Williams, gan y teulu er cof am Carol Williams, Hendre, Pentyrch)
  • £500 (Côr Philharmonic Caerdydd, i nodi bod y côr wedi cychwyn fel Côr Eisteddfod Caerdydd, 1978, wrth i'r côr ddod i ben)
  • £300 (Cor yr Einion, Côr yr Einion Efail Isaf, Pontypridd)

Beirniaid: Lyn Davies, Stephen Jackson a Katie Thomas