YMa

Gadewch i Effie eich tywys trwy strydoedd Caerdydd heddiw. Camwch i'w byd. Cymerwch olwg ar sut rydyn ni’n byw drwy ei llygaid hi. Cynhyrchiad newydd pwerus o addasiad Cymraeg o ddrama ddirdynnol Gary Owen sydd â chymaint i’w ddweud am fywyd yng Nghymru heddiw.

Yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif a golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o'r gynulleidfa


Mae bron i ddegawd ers i Iphigenia in Splott, drama ddirdynnol Gary Owen, ryfeddu’r byd, gan swyno cynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd, ennill gwobrau a dod yn llwyddiant ysgubol yn rhyngwladol.

Yn fwy perthnasol nag erioed, mae un o ddramâu pwysicaf hanes theatr Cymru yn dychwelyd yn 2024. Daw cynhyrchiad Alice Eklund o addasiad Cymraeg Branwen Cennard â’r clasur tanbaid yn fyw unwaith eto. Cast: Seren Hamilton.

Yn llawn emosiwn amrwd, empathi, tosturi a chalon, mae Iphigenia yn Sblot yn ysgytwad. Dyma’r ddrama sydd ei hangen ar bob un ohonom ar hyn o bryd.

Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru