Llwyfan y Maes

Noson o reggae dub Cymraeg yng nghwmni Aleighcia Scott, Morgan Elwy a'u gwestai arbennig, yn dilyn eu llwyddiant yn yr Eisteddfod y llynedd


Yn dilyn blwyddyn brysur gyda Aleighcia Scott yn rhyddhau yr album reggae 'Windrush Baby' a Morgan Elwy yn rhyddhau 'Dub yn y Pub' mae Un Dub yn dychwelyd i'r Eisteddfod ar ôl perfformiad gwych yn y Babell Lên llynedd