Theatr Stryd a Dawns

English translation is available

Bwndeli o fambŵ, cerddoriaeth fyw, comedi a champau sy'n dangos nerth ac ystwythder rhyfeddol gan artistiaid syrcas No Fit State Circus


Mae'r artistiaid yn cyrraedd llwyfan gwag, gan ddod â bwndeli o fambŵ gyda nhw. Maen nhw'n adeiladu cerfluniau mawr sy'n newid, yn addasu ac yn troi'n faes chwarae syrcas cywrain, annisgwyl sydd fel pe bai'n herio deddfau ffiseg.

Mae artistiaid syrcas ac acrobatiaid gyda'r gorau yn y byd y tu mewn i’r strwythurau sy’n plygu ac yn gwyro, gan ychwanegu at y tensiwn, y ddrama a’r ymdeimlad o berygl sydd wrth galon y sioeau syrcas gorau.

Dyma berfformiad ystyrlon, afieithus, gyda cherddoriaeth fyw, comedi a champau sy'n dangos nerth ac ystwythder rhyfeddol. Rydym yn dathlu’r hyn sy’n bosibl pan fydd bodau dynol a byd natur yn ymddiried yn ei gilydd ac yn gweithio mewn cytgord