Pafiliwn

English translation is available

Yr Archdderwydd, Mererid sy'n croesawu aelodau newydd i'r Orsedd. Cynhelir y seremoni yng Nghylch yr Orsedd os yw'r tywydd yn caniatáu

Ffanffer a gorymdaith yr Archdderwydd a’i hosgordd

Canu’r Corn Gwlad: Dewi Corn a Gwyn Anwyl

Gofynnir i aelodau’r gynulleidfa sefyll pan genir y Corn Gwlad i’w cyfeiriad, ac aros ar eu traed tra offrymir Gweddi’r Orsedd

Gweddi’r Orsedd: Iona

Emyn: Rhosymedre (Mawrygwn di, O Dduw)

Y Ddawns

Cyflwynydd y Flodeuged a Chynnyrch y Meysydd: Ffion Haf Roberts | Llawforynion y Llys: Mari Butcher ac Efa-Grug Thomas

Un o ieuenctid bro’r Eisteddfod sydd i gyflwyno’r Flodeuged a Chynnyrch y Meysydd. Wrth eu hestyn i’r Archdderwydd fe ddywed:

‘Hybarch Archdderwydd, yn enw ieuenctid ein gwlad, gofynnwn iti dderbyn y rhodd hon o gynnyrch tir a daear Cymru.’

Bydd yr Archdderwydd yn ateb:

‘Rwyf yn derbyn y rhodd hon o gynnyrch tir a daear Cymru yn symbol o’n hymroddiad ni i gyd yng ngwasanaeth yr iaith Gymraeg a diwylliant cyfoethog ein gwlad. Diolch i ti, fy chwaer. Gweddïwn am fendith y Nef arnat ti ac ar holl ieuenctid ein cenedl.’

Plant y Ddawns: Anwen Adams, Atlanta Tierney, Beca George, Bethan Dethridge, Briallen Davies, Ela-Mai MacDonald, Elin Lewis, Gruffydd Morris, Gwenni Cordingley, Gwenni Owen-Griffiths, Gwenno Fortt, Hallie Tinson, Lowri Davies, Maddie Coppin, Mared Jones, Martha Champion, Stephanie Hitchins

Hyfforddwyd y dawnswyr gan Eirlys Britton a Gavin Ashcroft | Ymgynghorydd: Myfanwy Rees

Cân werin: Cai Fôn

Urddo aelodau newydd Er anrhydedd yr Orsedd

Cau Cylch yr Orsedd: Yr Archdderwydd

Hen Wlad fy Nhadau

Gorymdaith yr Archdderwydd a’r Orsedd o’r Cylch

Telynores y Seremoni: Telynores Glannau Taf