Yr Archdderwydd, Mererid sy'n croesawu aelodau newydd i'r Orsedd. Cynhelir y seremoni yng Nghylch yr Orsedd os yw'r tywydd yn caniatáu
Ffanffer a gorymdaith yr Archdderwydd a’i hosgordd
Canu’r Corn Gwlad: Dewi Corn a Gwyn Anwyl
Gofynnir i aelodau’r gynulleidfa sefyll pan genir y Corn Gwlad i’w cyfeiriad, ac aros ar eu traed tra offrymir Gweddi’r Orsedd
Gweddi’r Orsedd: Huw Euron
Agor Cylch yr Orsedd: Yr Archdderwydd
Emyn: Sanctus (Molwn Di, O! Dduw ein tadau)
Gair o groeso gan yr Archdderwydd
Barddoniaeth bro: Siân Grug
Cyflwyno’r Corn Hirlas i’r Archdderwydd: Seren Hâf MacMillan | Macwyaid y Llys: Rhys Thomas a Jacob Watkin
Oedolyn o fro’r Eisteddfod sydd i gyflwyno’r Hirlas. Wrth ei estyn i’r Archdderwydd fe ddywed:
‘Hybarch Archdderwydd, yn enw aelwydydd Rhondda Cynon Taf , gofynnwn iti yfed o win ein croeso i’r Orsedd ac i’r Eisteddfod.’
Wedi i’r Archdderwydd yfed o’r Hirlas, fe’i dychwel i’r Cyflwynydd gan ddweud:
‘Diolch i ti, fy chwaer. Gweddïwn am fendith y Nef ar gartrefi Rhondda Cynon Taf ac ar eich Eisteddfod.’
Croesawu Cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd a Gorsedd Y Wladfa
Datganiad Cerdd Dant: Telynores Medi
Byr goffâd am y Gorseddogion: Y Cofiadur Christine
Yng nghanol ein llawenydd, gweddus ydyw dwyn ar gof y Gorseddogion a fu farw yn ystod y flwyddyn:
rhai y bu’n dda ganddynt drysorau ein llên mewn barddoniaeth a rhyddiaith;
rhai a oedd yn ymhyfrydu yng nghanu ein cenedl, yn sŵn y delyn a phob offeryn cerdd;
rhai a oedd yn cael boddhad o greu â’u dwylo geinder lliw a llun;
rhai a oleuodd ieuenctid ein gwlad â goleuni eu dysg;
a rhai a ddysgodd i ni ffordd tangnefedd gan ein harwain i garu Duw.
Diolchwn iddo Ef, ffynhonnell pob rhodd, am y doniau a fu yn ein plith; ymbiliwn am ei gysur i’r teuluoedd galarus ac am ei nawdd i’r Cylch gweddw hwn. Wrth inni wrando ar y gân goffa, cofiwn amdanynt oll.
Cân Goffa: Alaw Dâr
Cyfarchiad barddol: Y Prifardd Catrin o’r Garth
Urddo aelodau newydd:
(a) Prif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023
(b) Prif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
(c) Trwy radd gymwys
(ch) Trwy arholiad yr Orsedd
Hen Wlad fy Nhadau
Gorymdaith yr Archdderwydd a’r Orsedd o’r Cylch
Telynores y Seremoni: Telynores Glannau Taf