Llwyfan y Maes

Wedi sefydlu eu hunain fel un o’r grwpiau mwyaf poblogaidd ar y sin bop Cymraeg ers ffurfio yn 1996 mae tair aelod Eden - Emma Walford, Non Parry a Rachael Solomon - wedi rhyddhau deunydd newydd ar label Recordiau Côsh gyda chaneuon fel ‘Caredig’, ‘Siwgr’, 'Fi' a 'Wow'

Cafodd eu halbwm cyntaf ‘Paid â Bod Ofn’ ei ryddhau ar label Sain yn 1997 ac ers hynny mae’r tair wedi bod yn flaenllaw yn y sin bop Cymraeg a serennu ar raglenni teledu, llwyfannau ac mewn gwyliau dros Gymru gyfan.

Cafodd eu hail albwm ‘Yn Nôl i Eden’ ei ryddhau yn 1999 ac ers hynny maent wedi rhyddhau sawl sengl yn cynnwys ‘Cer Nawr’ yn 2003, ‘Rhywbeth yn y Sêr’, 2017 a ‘Sa Neb Fel Ti’ yn 2021

Maen nhw wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio tuag at ryddhau cyfanwaith bop ar ffurf albwm o'r enw 'Heddiw'

Instagram Facebook