Llwyfan y Maes

Bydd Dafydd Iwan a'i fand yn perfformio detholiad o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, ac ambell un fydd yn newydd i lawer yn y gynulleidfa. Yn ymuno ag ef bydd Eädyth, y gantores o Gwm Rhondda, a gwestai arall sy'n gyfrinach ar hyn o bryd!

Aelodau band llawn Dafydd yw Hefin Elis (gitâr bas), Pwyll ap Siôn (allweddell), Deian Elfryn (drymiau), Wyn Pearson (gitâr flaen) ac Euros Rhys (allweddell)