Theatr Stryd a Dawns

Ymunwch â phobl ifanc Amped Up Academy wrth iddyn nhw archwilio eu gobeithion a’u breuddwydion ar gyfer y dyfodol drwy ddawns hwyliog a parkour

Gyda'r symudiadau wedi eu creu gan y bobl ifanc a’r artistiaid symud Sandra Harnishch-Lacey a Kyle Stead, cawn ein hannog i ofyn y cwestiwn pwysig – beth yw eich breuddwydion?

Mae Amped up Academy yn rhan o brosiect Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ‘Tu Hwnt i’r Gofyn’, sydd â’r nod o greu newid cadarnhaol ym mhentref Penrhys drwy weithgareddau diwylliannol, dan arweiniad lleisiau yn y gymuned.

Mae partneriaid ‘Tu Hwnt i’r Gofyn’ yn cynnwys: Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (partner hwyluso), Eglwys Llanfair Penrhys, Ysgol Gynradd Penrhys, Plant y Cymoedd, Cymdeithas Dai Trivallis, Gwasanaeth Celfyddydau Rhondda Cynon Taf, Tŷ Cerdd, Theatr Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.