Ymunwch â ni am noson o gyd-ganu cynulleidfaol yn y Pafiliwn, dan arweiniad Wil Morus Jones a chyda Côr y Gymanfa
Tocynnau: £15
Cefnogir y Gymanfa gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans
Arweinydd: Wil Morus Jones
Organydd: Jeffrey Howard
Rhannau arweiniol: Parch. Dr Rosa Hunt
Eitem gan y côr: Teyrnasoedd y Ddaear – J Ambrose Lloyd
Arweinydd Cymru a’r Byd: Susan Dennis-Gabriel
Yr Emynau
Calon Lân (Nid wy’n gofyn bywyd moethus)
Capel Tygwydd (Ymgrymwn ger dy fron)
Llanrwst (Mawl i Dduw am air y bywyd)
Gwefus Bur (Chwifiwn ein baneri)
Arweiniad (O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd)
Rhondda (Arglwydd Iesu dysg i’m gerdded)
Dies Irae (O Arglwydd grasol, trugarha)
Blaenwern (Pan fo pryder lond fy nghalon)
Pontmorlais (Arglwydd nef a daear, gariad hollalluog)
Maes Gwyn (O fendigaid Geidwad)
Rheidiol (Cofia’n gwlad, Benllywydd tirion)
Tresalem (Yn Eden, cofiaf hynny byth)
Milwaukee (Ar yrfa bywyd yn y byd)
Cwm Rhondda (Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd)
Yn ystod y Gymanfa, cyflwynir Arweinydd Cymru a’r Byd, Susan Dennis-Gabriel.
Yn wreiddiol o bentref Cwm-bach ger Aberdâr, roedd Susan yn un o ddisgyblion cynharaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, ac mae’i hangerdd at ein hiaith wedi parhau er iddi symud o Gymru i fyw a gweithio ers blynyddoedd.
Ar ôl graddio mewn Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, bu’n dysgu am gyfnod, cyn mynd i astudio cerddoriaeth yn y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol yn Llundain, ac yna i Fiena, ar ôl ennill ysgoloriaeth i Brifysgol Fiena, gyda’i bryd ar ddod yn gantores opera broffesiynol.
Bu’n canu gyda Chwmni Opera Cenedlaethol, Covent Garden a Kent Opera am gyfnod cyn dychwelyd i Fiena i weithio, priodi a magu teulu. Roedd hi’n briod ag Athro Cerddoriaeth Prifysgol Fiena, y diweddar Athro Wolfgang Gabriel, ac yn fam i Angharad, sy’n gantores broffesiynol.
Bu’n gweithio fel unawdydd proffesiynol yn Awstria am flynyddoedd, gan berfformio ym Musikverein enwog Fiena, ac mewn dinasoedd eraill ar draws Ewrop, cyn gweithio fel tiwtor llais i fyfyrwyr ar gychwyn eu gyrfa. Bu hefyd yn gweithio fel tiwtor llais gwadd yn Y Ffindir, Sbaen a Siapan.
Cadwodd mewn cysylltiad â theulu a chyfeillion yng Nghymru drwy’r blynyddoedd, ac yn arbennig gyda’i nai a’i deulu yn Aberdâr, a’i chyfaill, y gantores Eirian James, yn Aberteifi. Bydd hi hefyd yn enw cyfarwydd i nifer sy’n dilyn y wasg a’r cyfryngau yma yng Nghymru, yn fwyaf diweddar yn trafod ei hatgofion am Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1956.
Edrychwn ymlaen at ei chroesawu i lwyfan y Pafiliwn yn ystod y noson.
Cyhoeddir enillydd cystadleuaeth yr emyn-dôn, a pherfformir yr emyn dôn fuddugol os oes teilyngdod. Rhoddir y wobr gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina.