Dylid dewis un gân o Rhan A ac un gân o Rhan B
RHAN A
Opera: unrhyw aria o 'Le nozze di Figaro', Mozart [Priodas Figaro] (gellir cynnwys yr adroddgan berthnasol)
Oratorio/Offeren: unrhyw aria o 'Samson', Handel (gellir cynnwys yr adroddgan berthnasol)
Lieder: unrhyw unawd o 'Dichterliebe' neu 'Frauenliebe und Leben', Schumann [copïau digidol ar gael o wefan IMSLP mewn cyweirnodau i lais uchel | canolig | isel. Cyhoeddiadau CF Peters.
Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru i archebu cyfieithiad
RHAN B
Unawd Gymraeg: cân Gymraeg wreiddiol gan un o'r cyfansoddwyr canlynol, Morfydd Llwyn Owen, Grace Williams, Mansel Thomas neu Mervyn Burtch [copïau ar gael drwy Tŷ Cerdd, Oriana Publications, Oxford University Press, manselthomas.org.uk a mervynburtch.com]
Gwobrau:
- £100 (Ann Jones)
- £60 (Rosslyn Morgan er cof am ei rieni, Glanffrwd ac Irene Morgan a'i ddiweddar frawd Robert o'r Cymer, Cwm Rhondda)
- £40 (Rosslyn Morgan er cof am ei rieni, Glanffrwd ac Irene Morgan a'i ddiweddar frawd Robert o'r Cymer, Cwm Rhondda)
Beirniaid: Elgan Llŷr Thomas, Robert Davies a Gail Pearson
Cyfeilydd: Jeffrey Howard