Pafiliwn
Beirniaid: Samuel Wyn Morris a Sophie Evans
Heb fod yn hwy na 5 munud
Gwobrau:
- Tlws Derek Williams, Cwmni Theatr Maldwyn i’w ddal am flwyddyn, £1,000 rhoddedig gan Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson a £75 (er cof am Norman Harris, arweinydd Cwmni Theatr Spotlight y Rhondda, Côr Meibion Cwmbach, Côr Cymysg Treorci a Chôr Plant Tylorstown, gan ei deulu)
- £50 (disgyblion 6ed Ysgol Llanhari)
- £25 (disgyblion 6ed Ysgol Llanhari)
Gellir defnyddio piano neu gyfeiliant addas neu drac cefndir, ond dylid cofio am anghenion technegol y llwyfan a’r rhagbrawf. Bydd y cystadleuwyr yn gyfrifol am eu cyfeilydd/ion eu hunain. Caniateir canu mewn unrhyw gyweirnod
Ni all unrhyw un dderbyn yr un ysgoloriaeth fwy nag unwaith, ond gellir cystadlu fwy nag unwaith i ennill y gwobrau
Gweler ein rhestr o unawdau sioeau cerdd.