Tŷ Gwerin

Un o'n telynorion cyfoes, Cadi Glwys, sy'n ymchwilio i gasgliad llawysgrifau'r telynor o Aberdâr, Llewelyn Alaw, i ddarganfod mwy am y cerddor, ei gerddoriaeth a'i gysylltiadau ag ardal yr Eisteddfod

Mae'r casgliad hwn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac un o'r rhai dan sylw yn y sesiwn eleni yw’r 'Casgliad gorau o alawon anghyhoeddedig' a enillodd wobr i Llewelyn Alaw (Thomas David Llewelyn, 1828-1879) yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1858. Mae'n cynnwys rhai alawon cyfarwydd ond eraill sydd yn anghofiedig. Mewn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru