Encore
Gwenno Morgan sy'n curadu cyngerdd golau cannwyll gyda Cerys Hafana, Glesni Rhys Jones, Llinos Haf Jones a Talulah i dalu teyrnged i Morfydd Llwyn Owen, cerddor lleol a fu farw cyn ei phen-blwydd yn 27 oed
Ganwyd Morfydd Llwyn Owen yn 1891 yn Nhrefforest, Pontypridd. Yn gerddor amryddawn, roedd ganddi ddawn arbennig fel cyfansoddwr ar draws sawl arddull cerddorol. Er iddi farw dair wythnos cyn ei phen-blwydd yn 27 oed, gadawodd 250 o weithiau cerddorol, sy'n parhau i gael dylanwad ar gerddoriaeth Gymreig heddiw.
Mewn cyngerdd yng ngolau cannwyll bydd y pedwar cerddor ifanc, bob un ohonynt dan 27 oed, yn talu teyrnged i’r eicon cerddorol lleol yma