Rhybudd – Rhaid i bawb sydd am weld y seremoni fod yn eu seddau erbyn 15:45
Nid agorir y drysau wedyn hyd nes bod gorymdaith yr Orsedd wedi gadael y Pafiliwn tua 17:00
Ffanffer a gorymdaith yr Archdderwydd a’i hosgordd
Canu’r Corn Gwlad: Dewi Corn a Gwyn Anwyl
Gofynnir i aelodau’r gynulleidfa sefyll pan genir y Corn Gwlad i’w cyfeiriad, ac aros ar eu traed tra offrymir Gweddi’r Orsedd
Gweddi’r Orsedd: Iona
Gair o groeso gan yr Archdderwydd, a chyflwyno beirniaid Cystadleuaeth y Gadair: Aneirin Karadog, Huw Meirion Edwards, Dylan Foster Evans
Beirniadaeth: Aneirin Karadog
Awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau: Cadwyn
Gwobr: Cadair yr Eisteddfod a £750 (Disgyblion a chymuned Ysgol Llanhari ar achlysur dathlu cyfraniad yr ysgol a theulu Llanhari i 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf)
Geilw’r Archdderwydd ar yr osgordd i gyrchu’r bardd buddugol, a gofynnir iddynt sefyll ar alwad y Corn Gwlad
Cyhoeddir enw’r bardd buddugol ac fe’i gwahoddir i eistedd yn hedd yr Eisteddfod
Cadeirio’r bardd yn ôl braint a defod yr Orsedd
Cerdd y Cadeirio: Anni Crugeran
Cân y Cadeirio: Heulen Cynfal
Cyfarch y Bardd: Y Prifardd Alan Llwyd
Cyflwynir dawns er anrhydedd i’r bardd buddugol
Cyflwynydd y Corn Hirlas: Seren Hâf MacMillan | Macwyaid y Llys: Rhys Thomas a Jacob Watkins
Cyflwynydd y Flodeuged a Chynnyrch y Meysydd: Ffion Haf Roberts | Llawforynion y Llys: Mari Butcher ac Efa-Grug Thomas
Plant y Ddawns: Anwen Adams, Atlanta Tierney, Beca George, Bethan Dethridge, Briallen Davies, Ela-Mai MacDonald, Elin Lewis, Gruffydd Morris, Gwenni Cordingley, Gwenni Owen-Griffiths, Gwenno Fortt, Hallie Tinson, Lowri Davies, Maddie Coppin, Mared Jones, Martha Champion, Stephanie Hitchins
Hyfforddwyd y dawnswyr gan Eirlys Britton a Gavin Ashcroft | Ymgynghorydd: Myfanwy Rees
Hen Wlad fy Nhadau
Arweinir y bardd buddugol allan gan yr Archdderwydd, â’r Orsedd yn eu hebrwng
Gofynnir yn garedig i’r gynulleidfa aros yn eu seddau nes i’r orymdaith adael y Pafiliwn
Telynores y Seremoni: Telynores Glannau Taf
Organydd:
Euros Llys-myfyr