Mae llawer o bobl yn cael breuddwydion cas, bola’n chwyrlio, teimlo’n bigog. A weithiau maen nhw’n gwneud iti deimlo’n unig. Beth all plentyn sy’n cael pwl cas o ddreigiau ei wneud felly? Dyma sioe sy'n brofiad braf i'r holl deulu, gyda chapsiynau creadigol, BSL a disgrifiadau sain wedi’u cydblethu. Cofiwch… “Nid oes draig yn y byd sy’n fwy grymus na TI!”
Chwedl hyfryd am daith plentyn i ddygymod â’i ddreigiau yn null unigryw Taking Flight. Dyma gynhyrchiad sensitif, gweledol wych, gyda cherddoriaeth fyw sy'n archwilio'r dreigiau rydyn ni i gyd yn eu wynebu mewn ffordd ddoniol a gwefreiddiol. Mae'r fersiwn fer yn cynnwys detholiad cerddorol o'r sioe gyflawn
Cyd-gynhyrchiad Cwmni Theatr Taking Flight/Pontio, gyda chefnogaeth Chapter. Crewyd gan Kathryn Cave a Nick Maland, gyda'r addasiad gan Manon Steffan Ros
Cyfarwyddwr: Elise Davison; Dylunio set a gwisgoedd: Ruth Stringer; Dylunio goleuadau: Garrin Clarke; Cyfansoddwr a dylunio sain: Dan Lawrence; Cyfarwyddwr a throsiad BSL: Steph Bailey Scott; Capsiynau creadigol: Ben Glover
Cefnogir gan:
Cyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Gwendoline a Margaret Davies a Thŷ Cerdd