Caffi Maes B

Band pum aelod o ardal y Bala sy'n plethu llais pwerus Elain Rhys gyda gitâr Math Thomas a’i chwaer Nel ar y bas, Gruffudd ab Owain ar y piano a Cadog Edwards ar y drymiau

Yn sgrifennu caneuon a pherfformio ers diwedd 2022 mae'r band yn ymfalchïo yng nghyfoeth cerddorol oesol eu bro, gan ddod ag amrywiaeth o elfennau a dylanwadau ynghyd i dorri eu cwys eu hunain.

Rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Llwybrau’, ar label I KA CHING ddiwedd mis Hydref 2023

Instagram