Pafiliwn

Dylid dewis un gân o Rhan A ac un gân o Rhan B

RHAN A
Opera
: unrhyw aria o 'Carmen', Bizet
Oratorio | Offeren: unrhyw aria o 'Messiah,' Handel
Lieder: unrhyw unawd o gylch caneuon 'Schwanengesang, Schubert

RHAN B
Unawd Gymraeg: cân Gymraeg wreiddiol gan un o'r cyfansoddwyr canlynol, Morfydd Llwyn Owen, Grace Williams, Mansel Thomas neu Mervyn Burtch

Gwobrau:

  • £150 (Robert Edwards, er cof am Irene Bage, merch o'r Rhondda a oedd yn caru cerddoriaeth)
  • £100 (Angela Morris-Parry er cof am Mel a Vera, Port Talbot)
  • £50

Beirniaid: Elin Manahan Thomas, Gareth Rhys Evans a Leah-Marian Jones

Cyfeilydd: Branwen B Evans