Dewch i fwynhau llais arbennig a harmonïau cynnil Lowri Evans a'i thriawd gyda'u cyfuniad o ddylanwadau'n cynnwys Americana, gwerin, canu gwlad a'r blws
Wedi’i disgrifio gan Bob Harris fel “un o’i hoff artistiaid” mae Lowri wedi’i bendithio â llais sy’n llawn pŵer emosiynol. Gyda hi bydd aelodau eraill y triawd, Lee Mason ar y gitâr a Jake Newman ar y bas, a'r ddau yn cyfrannu lleisiau cefndir sy'n creu'r harmonïau cynnil sydd wedi bod yn rhan annatod o gerddoriaeth Lowri o’r cychwyn cyntaf.
Gyda’i gilydd mae'r triawd wedi teithio o amgylch UDA, wedi perfformio sesiynau i Bob Harris ar BBC Radio 2 a pherfformio’n rheolaidd mewn gwyliau fel Cambridge Folk, Underneath the Stars, Celtic Connections, Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl Greenman a Gwyl y Gelli.
Fe wnaeth Lowri ryddhau EP newydd fis Ebrill 2024 'Beth am y gwir?' gyda dwy sengl yn cael eu gwneud yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru.