Cymdeithasau

English translation is available

Sut fydd y De-ddwyrain yn cyfrannu at y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Trafodaeth banel am beth sy'n cael ei wneud, a beth arall sydd angen ei wneud, i ddatblygu addysg Gymraeg ymDhellach i bawb o bob cefndir yn Ne-ddwyrain Cymru


Mae Meirion Prys Jones yn ymgynghorydd cysylltiol gyda chanolfan cynllunio Iaith ac yn gyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd aelodau’r panel yn cynnwys unigolion sy'n gweithio yn uniongyrchol ym meysydd cynllunio polisi a hyrwyddo darpariaeth addysg Gymraeg yn ogystal ag unigolion sy'n gweithio gyda dysgwyr a theuluoedd wrth ddarparu addysg Gymraeg