Llwyfan y Maes

Myfyrwr offerynnol grwpiau sylfaen talentog Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf yn perfformio casgliad o glasuron Cymreig yn ogystal â ffefrynnau clasurol. Dewch i weld dyfodol talent gerddorol RhCT!

Gwrandewch ar ensembles o fyfyrwyr ifanc yr ardal yn mynd i'r afael â rhai trefniannau heriol o ffefrynnau poblogaidd. O 'Suo Gân' i 'When the Saints Go Marching In', bydd digon o ddeunydd cyfarwydd i'ch diddanu ar slot prynhawn cynnar yn yr Eisteddfod.

Yn dod o ysgolion ledled ardal yr awdurdod lleol dyma'r tro cyntaf iddynt berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac, i ambell un, dyma eu perfformiad cyntaf erioed! Byddwch yn gweld camau cynnar sêr cerddorol y dyfodol yn cael blas cyntaf ar berfformiad a fydd yn eu datblygu'n berfformwyr byw profiadol

Facebook X