Tŷ Gwerin

Cydweithrediad syfrdanol rhwng Aoife Ní Bhriain, un o ffidlwyr traddodiadol mwyaf blaenllaw Iwerddon a feiolinydd clasurol o statws rhyngwladol, a'r delynores o Gymru, Catrin Finch sydd wedi creu gyrfa glasurol drawiadol a mentro i dir newydd drwy gydweithio ag artistiaid rhyngwladol


Yn ddau dalent cerddorol aruthrol, mae Finch a Ní Bhriain yn creu deialog gerddorol swynol lle mae elfennau traddodiadol a chyfoes yn dod at ei gilydd mewn dathliad o gydweithrediad cerddorol, gan dywys gwrandawyr ar daith hudolus ar adenydd y gwenyn ar draws Môr Iwerddon, wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliannau eu dwy wlad enedigol.

Mae eu halbwm cyntaf 'Double You' wedi cyrraedd rhif 1 yn Siartiau Clasurol iTunes a Siartiau Cerddoriaeth y Byd Ewrop, rhif 2 yn Siartiau Cerddoriaeth Byd Transglobal, a'i enwebu am wobr yr Albwm Gorau yn 6ed Gwobrau Gwerin Radio 1 RTÉ, ac Albwm Gorau Ewrop yng Ngwobrau Cerddoriaeth Songlines 2024.

Cynhyrchiad y Mwldan