YMa

Wrth i ferch o'r enw Fi fynd â ni ar daith o’i bywyd carwriaethol - y crushes cyfrinachol, y caru lletchwith a’r torcalon blêr - mae'n dod i ddeall cymhlethdodau byw'n driw i'w hun wrth dyfu fyny fel tomboy yn y nawdegau.

Monolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd gan Bethan Marlow, wedi’i gyfarwyddo gan Rhiannon Mair


"Dwi jysd yn keen. Generally, mewn bywyd. Lot rhy keen actually."

Dyma Fi: hogan pentra' efo gwallt spikes a BMX, yn ffansïo genod ond cogio bod yn strêt; yn disgyn mewn cariad efo dynas ar y cae rygbi ond cheith hi’m deud wrth neb bod hi’n disgyn mewn i'w gwely; mynd i Lundan i fod yn lesbian mewn byd lesbian yn caru bob lesbian eiliad... nes bod hi ddim.

Wedi'i ddewis fel un o Oreuon Theatr 2022 gan y Guardian. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Comisiynwyd Brên. Calon. Fi yn wreiddiol gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru i'w berfformio yn Nhregaron 2022. Wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru