Tŷ Gwerin

Ymunwch â rhai o chwedleuwyr gorau Cymru am sesiwn adrodd stori sydyn llawn hwyl lle byddwch chi'n penderfynu pwy yw'r gorau! Gyda Michael Harvey, Tamar Williams, Ceri Phillips, Fiona Collins, Cath Little, Kamalagita Hughes a'r Stompfeistres, Llio Maddocks

Dewch â'ch clustiau gwrando gorau er mwyn penderfynu pwy fydd yn esgyn i'r rownd derfynol ac ennill y clod, y mawl, y parch a'r bri o gael coron pencampwr eleni gyda digonedd o chwerthin, chwedlau epig ac elfen gref o gystadleuaeth!