Y Lle Celf

Gan gychwyn yn y Lle Celf, casglwch lyfr sgets arbennig ac ymunwch ag artist i fynd am dro o gwmpas y Maes, fel rhan o brosiect comisiwn arbennig Geraint Ross Evans

Addas i blant 10+ (gyda rhiant) ac oedolion


Mae'r sesiwn yn agored i bawb; does dim angen sgiliau darlunio, a bydd artist yn eich arwain drwy ymarferiadau syml a chreadigol.

Mae prosiect comisiwn arbennig Geraint Ross Evans yn creu darlun enfawr ar y Maes o'r Afon Taf yn troelli drwy dirlun y dalgylch, gan adrodd hanes y bobl sydd wedi byw a gweithio ger ei glannau dros y canrifoedd