Y Lle Celf
Gwenllian Beynon sy'n trafod yr arlunydd Josef Herman a'i berthynas â Chymru, yn enwedig Ystradgynlais lle dechreuodd gynhyrchu delweddau o lowyr
Bu creu delweddau o bobl gyffredin wrth eu gwaith yn rhan bwysig o waith Herman drwy gydol ei yrfa er mai dim ond am 11 mlynedd y bu'n byw yng Nghymru, o 1944-55. Eleni, rydyn ni'n nodi 80 mlynedd ers i Herman ddod i Gymru i fyw.
Mae'r artist a’r darlithydd Gwenllian Beynon yn un o ymddiriedolwyr Sefydliad Celf Josef Herman