Theatr Stryd a Dawns

Perfformiad awyr agored crwydrol unigryw gan bum perfformiwr sy'n herio'r drefn mewn ffordd chwareus! Mae 'Gwir' yn alwad i weithredu: ydy hi'n amser i chi gael eich rhyddhau?


Mae'r gwrthryfel yn cyrraedd - llawn gobaith, yn ffyrnig gomig ac ar dân i darfu ar y norm cyhoeddus. Mae'r gynulleidfa'n ymuno â'r gemau gan archwilio pŵer a rheolaeth. Mae’r cyffro rhyfedd yn codi gan uno'r bobl mewn terfysg llawen o gariad!

Mae Ramshacklicious yn gwmni theatr anarchaidd sy'n creu profiadau theatrig cyfoes o ansawdd uchel ar gyfer yr awyr agored a mannau sydd wedi'u hailbwrpasu ers 2006. Ystyrir Hijinx yn un o gwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw Ewrop, sy'n creu theatr gyffrous a gwrthdroadol gyda pherfformwyr ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth