YMa

Addasiad Cymraeg o ddrama deimladwy Frank Vickery fydd yn eich ysbrydoli, yn gwneud i chi chwerthin ac yn codi'r galon.

Oed 14+


I lawer, mae Nos Galan yn noson i'w mwynhau, dathlu gyda ffrindiau a theulu ac edrych ymlaen at y flwyddyn gyffrous sydd i ddod. Ond i Eileen, mae'n gyfnod o fyfyrio ac edrych yn ôl ar yr achlysuron sydd wedi siapio ei bywyd: poen a galar colli ei hunig ferch Lind, ei hantur yn Disney World a'r berthynas gariadus annisgwyl ag Americanwr ifanc a golygus oedd yn chwarae rhan Mickey Mouse!

Cynhyrchiad Theatrau RhCT gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Wedi ei haddasu i'r Gymraeg gan Ieuan Rhys