Y Pentref Dysgu Cymraeg yw un o ardaloedd mwyaf poblogaidd y Maes ac rydyn ni’n disgwyl i’r ardal fod yn brysur iawn eleni, gan fod cymaint o ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg ar draws Rhondda Cynon Taf.
Mae rhaglen mor amrywiol yn Tipi Maes D – ychydig o gerddoriaeth, sgyrsiau, drama, straeon a llond lle o hwyl – ac mae popeth yn addas i ddysgwyr a phawb yn gyfeillgar iawn. Mae’r cystadlaethau i ddysgwyr yn cael eu cynnal yma dydd Iau – beth am ddod draw i gefnogi?
Mae stondin Llywodraeth Cymru’n rhan o’r Pentref hefyd, ac mae ganddyn nhw raglen lawn o weithgareddau, gyda thrafodaethau, sgyrsiau a gwybodaeth am agweddau gwahanol o’u gwaith.
Os ydych chi’n dysgu neu’n adnabod rhywun sy’n dysgu Cymraeg, dewch draw am sgwrs neu gyngor. Mae tîm y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yma i’ch helpu chi i gael hyd i gwrs neu weithgaredd Cymraeg sy’n berffaith i chi.
Cefnogir y Pentref Dysgu Cymraeg gan: