Arwydd Sinemaes mewn sgwar coch wrth ymyl tepee ar Faes yr Eisteddfod mewn tywydd braf

Gyda chymysgedd o weithdai, sgyrsiau a dangosiadau, mae rhaglen Sinemaes yn cynnig blas o sut beth yw gweithio yn y cyfryngau a’r byd ffilm yng Nghymru. 

Mae cyfle hefyd i wylio ambell ffilm eiconig o’r gorffennol a mwynhau cyfresi o ffilmiau byrion am yr ardal sydd wedi’u dewis a’u curadu gan y gymuned leol yn Rhondda Cynon Taf.