Lido, Parc Ynysangharad

Am y tro cyntaf erioed, mae pwll nofio awyr-agored cynnes ar y Maes – ac mae o ar agor drwy gydol yr wythnos! Gall unrhyw un sydd â thocyn Maes brynu tocyn i archebu sesiwn nofio yn y Lido.

Agorodd y lido, yn 1927. Yn ôl y sôn, hwn oedd y pwll nofio awyr-agored mwyaf yng Nghymru ar y pryd, ac ar ei fwyaf poblogaidd, byddai hyd at 1,000 o bobl yn ymweld mewn diwrnod.

Roedd dylanwad Môr y Canoldir yn amlwg ym mhensaernïaeth y lido. Fe’i caewyd yn swyddogol yn 1991 ar ôl tân difrifol a blynyddoedd o beidio â chael ei gynnal a’i gadw. Gan ei fod yn Adeilad Rhestredig Gradd II, doedd dim modd ei ddymchwel, a chafodd ei adael i adfeilio am flynyddoedd. 

Ond, yn 2013, dechreuwyd ar y gwaith o’i adfer, yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a Chronfa Treftadaeth y Loteri, ac fe’i ail-agorwyd yn 2015.

Cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen i archebu eich sesiwn nofio Eisteddfod. Rheolir y lido gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.