Addurn enfawr wedi'i greu i edrych fel rhes o lyfrau lliwgar gan greu arwydd Y Babell Lên

Mae’n debyg mai Y Babell Lên yw’r adeilad enwocaf ar y Maes ar ôl y Pafiliwn.  Mae’n rhan o’r Eisteddfod ers degawdau lawer, ac mae cenedlaethau o feirdd a llenorion wedi cael mwynhad o ddod a chymryd rhan yn ei gweithgareddau.

Mae’n gymysgedd o sesiynau bob blwyddyn, o ddarlithoedd a sesiynau trafod llenyddiaeth i gyflwyniadau mwy ysgafn, darlleniadau a sesiynau’n hel atgofion am lenorion a wynebau cyfarwydd bro’r Eisteddfod.  

Mae’n bosibl mai sesiwn enwocaf y Babell Lên yw Ymryson y Beirdd, sef cystadleuaeth farddoni sy’n cael ei chynnal bob pnawn, gyda thimau o feirdd o wahanol rannau o Gymru’n cystadlu mewn pob math o dasgau barddonol.  

Llond lle o hwyl a chwerthin wrth iddyn nhw geisio creu cerddi sy’n mynd i apelio at y Meuryn – y cyflwynydd a’r person sy’n gyfrifol am sgorio’r cerddi.  Fel arfer bydd pobl yn dechrau ciwio i fynd i’r ymryson ymhell ymlaen llaw, felly cofiwch ddod yn gynnar os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r hwyl.

Gyda’r nos, mae’r Babell Lên yn troi i mewn i’r Cwt Cabaret ac yn newid cywair yn llwyr gyda digwyddiadau hwyliog ac amrywiol bob noson.

 

Noddir y Babell Lên gan: 

Geiriau glas Prifysgol Abertawe - Swansea University - gydag arfbais gyda draig a llyfr