Band ar lwyfan mawr a chynulleidfa'n gwylio gyda'r nos gyda goleuadau llachar

Gyda cherddoriaeth o bob math tan yn hwyr – mae’n denu cynulleidfa o filoedd bob noson. Roedd dros 10,000 yn gwylio Bwncath a Candelas ar ddechrau a diwedd yr wythnos yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd y llynedd!

Wrth iddi nosi, mae bandiau ac artistiaid mwyaf Cymru’n perfformio, ond mae lle i bob math o berfformwyr lleol ar y Llwyfan hefyd.  

Mae pob dydd yn cychwyn gyda pherfformiad gan gôr a band pres o ardal yr Eisteddfod, gyda bandiau lleol neu newydd i ddilyn.

Mae awyrgylch Llwyfan y Maes yn unigryw, gyda chymysgedd o deuluoedd a phobl o bob oed yn mwynhau’r gerddoriaeth a chyfle i gymdeithasu yn yr haul.  

Dyma lwyfan mwyaf y Gymraeg, ac mae cael cyfle i berfformio yma’n wefr fawr i bob band!

Peidiwch â cholli Dafydd Iwan nos Sadwrn 3 Awst am 21:00 – gyda gwestai go arbennig sydd heb ei gyhoeddi eto.  Dewch draw i fwynhau!

 

Noddir Llwyfan y Maes gan:

Logo BBC Radio Cymru a logo S4C