To y Ty Gwerin gyda goleuadau bach yn ddisglair, a band yn chwarae gyda'r nos

Felly dewch draw i’n yurt deniadol am raglen lawn dop o weithgareddau gwerin mewn awyrgylch gynnes a chyfeillgar.

Peidiwch â disgwyl rhaglen sy’n canolbwyntio ar y gorffennol – mae ein hamserlen yn rhoi gwedd newydd a modern ar ein traddodiadau mwyaf cynhenid, gan eu defnyddio i siapio sîn fywiog a llawn egni sy’n edrych yn hyderus i’r dyfodol.

Dewch i fwynhau bandiau a pherfformwyr gorau’r sîn werin drwy gydol yr wythnos – gyda slot olaf y noson yn sicr o ddenu cynulleidfa enfawr. 

Mae’r rhaglen yn asiad perffaith o’r traddodiadol a’r newydd, yn lwyfan i artistiaid sy’n perfformio ar hyd yn byd, yn ogystal â’r rheini sy’n teithio Cymru.

Peidiwch â cholli cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin – doniau newydd Cymru’n cael llwyfan mewn cystadleuaeth arbennig ar y cyd rhwng yr Eisteddfod a’r BBC – a dewch draw nos Wener ar gyfer y Twmpdaith – dawnsio gwerin cymdeithasol – gyda chroeso mawr i bawb ymuno!