Dau artist sydd ar flaen y gad yn y sîn werin Gymraeg, sydd wedi treulio pymtheg mlynedd yn plygu a churo’r gerddoriaeth honno i siapiau anghyfarwydd gyda’u dehongliadau blaengar o’r hen repertoire.
Ar ôl pum albwm stiwdio a sawl taith hirfaith ar draws tri chyfandir, mae gan y ddau berthynas gerddorol ddofn, yn rhannu iaith gerddorol reddfol, a chyda dyhead i glywed yr alawon hynafol hyn fel ag y maent: yn amrwd a heb eu hidlo.
Cysylltir y ddau yn bennaf â thraddodiad ffidil Cymru – arddull y mae’r ddau wedi helpu i’w siapio yn eu ffyrdd eu hunain yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn amrwd, cawn glywed sŵn daearol pur y llinynnau wrth i’r ddwy ffidil gylchdroi o gwmpas ei gilydd mewn sgwrs fywiog, yn ogystal â lleisiau canu cyfoethog y ddau a’r cyfan wedi’i addurno ag ambell offeryn taro a phiano.
Ceir hen ffefrynnau fel ‘Myfanwy’, ‘Calon Lân’ a ‘Tra Bo Dau’ ochr yn ochr â darnau sydd wedi llithro ymhellach o gof cerddorol Cymru – o alawon dawns cynhyrfus fel ‘Du Fel y Glo’ i’r gân gwaith amaethyddol ‘Gyrru’r Ychen’.
Yn ogystal, ceir ambell i gyfansoddiad gwreiddiol gan Angharad. Meddai’r ddau, “Rydyn ni wedi trefnu hen ffefrynnau â sensitifrwydd a pharch, gan eu chwarae ochr yn ochr â’n halawon ffidil llawen ein hunain – rhai ohonynt yn llawn dylanwadau o’r gerddoriaeth rydyn ni wedi’i chodi ar ein teithiau dros y blynyddoedd.”
Gydag adleisiau clasurol mae’r albwm twyllodrus o syml hwn yn archwilio rhai o draddodiadau gwerin cyfoethog Cymru gan ddau chwaraewr sy’n uchel eu parch.
Fel deuawd mae eu cariad a’u gwybodaeth am gerddoriaeth werin Gymraeg yn ei chodi i uchelfannau newydd, gyda chwarae bywiog a harmonïau lleisiol hardd.