Mae ‘Caneuon Tyn yr Hendy’ yn cynnwys wyth cân newydd sbon a thrac bonws, ‘Goriad’. Yn gasgliad amrywiol o ganeuon, mae dawn Meinir fel bardd a cherddor unwaith eto yn serennu a’r cyfan wedi tyfu’n naturiol dros gyfnod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. O ddidwylledd amrwd y gân ‘Dwi’m yn Cofio’ i her ac ysbryd dyrchafol cân agoriadol yr albwm, ‘Waliau’, mae Caneuon Tyn yr Hendy yn mynd â’r gwrandäwr ar daith ar hyd llwybrau antur, hiraeth, serch, ansicrwydd a gobaith.

Wedi ei recordio yn rhannol gartref ac hefyd mewn amrywiol leoliadau, yn cynnwys Stiwdio Sain, Stiwdio Un a Stiwdio Ofn, gyda chymorth Sam Durrant, Osian Huw Williams ac Aled Wyn Hughes, cynhyrchwyd yr albym gan Meinir ei hun a cheir chyfraniadau cerddorol gan Ceiri Humphreys ac Euron Jos (gitârs), Twm Elis a Cai Llywelyn Gruffydd (drymiau), Bob Galvin, Osian ac Aled (bas) ac Edwin Humphreys (cyrn a sax). Yn ogystal mae llais Alys Williams i’w glywed ar y trac tyner ac emosiynol ‘Yr Enfys a’r Frân’ a llais a thelyn Gwenan Gibbard ar y trac gwerinol, bywiog, ‘Rew di Ranno’.