Mae Mellt yn bedwarawd o Aberystwyth yn wreiddiol, sydd bellach wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Enillodd eu halbwm cyntaf ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Gendlaethol yng Nghaerdydd yn 2018, a chyrhaeddodd yr albwm rhestr fel y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yr un flwyddyn. 

Cafodd yr ail albwm ‘Dim Dwywaith’ ei ryddhau yn mis Hydref ar label Clwb Music. Ar ôl chwarae nifer o sioeau byw, mae Mellt yn anarchwyr y dorf, yn achosi twrw lle bynnag maen nhw’n mynd. Mae Mellt wedi cael eu dylanwadu gan The Clash, The Band a The Replacements gyda’u riffiau gitâr bachog, synau slacyr roc a post pync, a’r geiriau’n goron ar y cyfan.