Mae gan 'Llond Llaw’ bopeth sy'n gwneud Los Blancos yn Los Blancos. Yma, ceir casgliad celfydd o ganeuon sy'n dangos y band o Gaerfyrddin ar eu mwyaf gonest, rhydd a chreadigol eto. Mae'r albwm yn mynd yn groes i bob elfen narsisistig sy'n bodoli yn ein cymdeithas ni heddiw.

Cafodd yr albwm ei ysbrydoli i raddau gan gasgliad o straeon byrion Matthew Baker, ac yn benodol y dyfyniad: "Welcome, dear visitor, to a proud and storied nation. When you put down this guidebook, look around you. A nation isn’t land, a nation is people."

Tro bod eu halbwm gyntaf ‘Sbwriel Gwyn’ yn ymdrin â themâu sy'n adrodd eu pryderon personol a chymhlethdodau'r byd, mae 'Llond Llaw' yn cyfleu band sydd mewn lle llawer mwy cyfforddus, a'n adrodd storïau am y cymeriadau o'u cwmpas. Yr hyn y cawn yma yw casgliad 13 trac sy'n adrodd storïau personol, geiriau didwyll a sylwadau doeth - gyda phob aelod o'r band wedi cyfrannu at lywio'r storïau hynny.  

Er bod eu hegni amrwd a'u hangerdd heintus dal yn amlwg ar eu hail albwm, mae 'Llond Llaw' yn dangos cynnydd clir yn natblygiad Los Blancos fel band. Yn debyg i Bukowski, Kerouac neu Tom Waits, mae Los Blancos yn gweld y da yn y drwg a'r harddwch yn yr amherffaith.