YMa, canolfan gelfyddydol yn hen adeilad yr YMCA ym Mhontypridd, o dan awyr las

Mae YMa yn fan creu, meithrin a chelf yng nghanol tref Pontypridd, funudau’n unig o Faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad. 

Eu cenhadaeth yw sbarduno teithiau o greadigrwydd unigol a chyfunol sy’n datgloi potensial pobl a chymunedau. 

Mae’r ganolfan ddeinamig ac egnïol hon wedi’i lleoli yn hen adeilad yr YMCA, a agorwyd yn 1910 ar y stryd fawr.  

Gweithredir yr adeilad gan Artis Community Cymuned er mwyn cyflwyno gweledigaeth gelfyddydol newydd yn y dref a’r ardal. 

Mae croeso i bobl o bob oed, cefndir, diwylliant a phrofiad a adlewyrchir yn y gymuned, mewn ffordd sy’n hygyrch i bawb.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd YMa’n gartref i amryw o’n rowndiau cynderfynol dawns, rownd derfynol ein cystadleuaeth actio drama neu waith dyfeisiedig boblogaidd, a nifer fawr o berfformiadau theatrig yr wythnos.

Gyda chyfuniad o sioeau gan gwmnïau lleol fel Theatrau RCT ac Ymddiriedolaeth Gelfyddydol Awen, a pherfformiadau gan gwmnïau cenedlaethol megis Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman, mae YMa’n lleoliad ardderchog ar gyfer sioeau artistig o bob math.

Mae mynediad i ddigwyddiadau YMa am ddim gyda band garddwrn tocyn Maes, neu gallwch brynu tocyn i'r cyngherddau nos ar y drws.