Symudodd Evan, a anwyd yng Nghaerffili yn 1809 i Bontypridd yn 1847 i redeg ffatri wlân ar lannau’r Taf.
Y fo a ysgrifennodd y geiriau a James yr alaw yn 1856. Perfformiwyd “Glan Rhondda”, fel y’i gelwid yn wreiddiol, am y tro cyntaf yn nhref Maesteg a hynny gan Elizabeth John.
Clywid Hen Wlad fy Nhadau fel anthem genedlaethol ar ddechrau gêm rygbi rhwng Cymru a Seland Newydd yng Nghaerdydd yn 1905, dyma y tro cyntaf i hyn ddigwydd ar ddechrau gêm chwaraeon erioed.
Dechreuodd y Crysau Duon berfformio’r Haka ac fel ymateb i hynny, dechreuodd chwaraewyr Cymru, gyda’r dorf yn eu cefnogi, ganu Hen Wlad fy Nhadau. 3-0 i Gymru oedd y sgôr ar ddiwedd y gêm ac felly roedd dyfodol Hen Wlad fy Nhadau fel anthem genedlaethol wedi ei sicrhau.
Mae’r fersiwn ysgrifenedig cynharaf yn parhau i fodoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn dilyn trafodaethau lu gyda phwyllgorau artistig lleol, comisiynodd yr Eisteddfod Genedlaethol dîm o bobl i greu prosiect gan bobl yr ardal i ddathlu’r anthem eleni.
Aethpwyd ati i wireddu Murlun arbennig a Seinwedd (Soundscape) trochol, i fod ar wal hen gartref Evan a James James yn Stryd y Felin, Pontypridd fel rhan o waddol ymweliad yr Eisteddfod a’r fro.
Ysbrydolwyd murlun yr artist graffiti, T 2 Sugars gan rhai o ddisgyblion ysgolion cynradd Rhondda Cynon Taf, a chrëwyd y Seinwedd gan Screentales o Dreherbert, wrth gynnal sgyrsiau gyda degau o blant ysgolion cynradd dalgylch yr Eisteddfod ac ystod o bobl o'r Rhondda, Cwm Cynon a Thaf.
Fe glywir detholiad o’r sgyrsiau hyn wedi eu plethu gyda datganiadau cerddorol amrywiol o’r anthem gan unigolion a chorau lleol ar ffurf Seinwedd arbennig.
Ar y Seinwedd, clywir un o ddisgynyddion y Jamesiaid, Geraint James, yn nodi y credir i’r geiriau gael eu creu fel ymateb i lythyr gan ddau o frodyr Evan a oedd yn annog aelodau o'r teulu i adael Cymru ac ymfudo i’r Unol Daleithiau.
Ar ddydd Sadwrn 10 Awst, 19:30 yn y Pafiliwn, ceir cyfle i glywed y Seinwedd unwaith eto, a bydd hyn yn arwain at berfformiad o gomisiwn cerddorol newydd, sef, “Gwlad” dan arweiniad y cyfansoddwr ei hun, Eilir Owen Griffiths.
Gwaith wedi ei ysbrydoli gan gerddi a ysgrifennwyd gan feirdd lleol, Mari George, Christine James, Delwyn Siôn ac Aneurin Karadog, i gyd yn dwyn y teitl “Gwlad”.
Perfformir y gwaith gan ensemble lleisiol o gyn-enillwyr yr Eisteddfod yn ogystal â cherddorfa siambr o gerddorion o Sinfonia Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Croeso mawr i bawb!
Diolch i bawb a fu’n rhan o’r prosiect Anthem am eu cyfraniadau gwerthfawr.