Mae fferm wynt Pen y Cymoedd Vattenfall wedi bod yn weithredol uwchben Rhondda Cynon Taf ers 2017, gyda 76 o dyrbinau yn cynhyrchu digon o drydan i bweru 15% o gartrefi Cymru bob blwyddyn.
Rahel Jones, Pennaeth Ymgysylltu â Rhaddeiliaid Ar y Tir a Thopmas Tudor Jones, Cadeirydd CBC Pen y Cymoedd sy'n cyflwyno'r prosiect.
Y tu hwnt i'r fferm wynt, mae cynllun budd cymunedol annibynnol yn darparu buddsoddiad blynyddol o £2.4 miliwn, sy'n canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol.
Mae'r sgwrs hon yn adrodd hanes y fferm wynt – o’r cyfnod cyn i’r rhaw gyntaf fynd i mewn i’r ddaear, i’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud heddiw i adfer y mawndir y mae’n cydfodoli ag ef, a dylanwad helaeth y manteision cymunedol sy’n cael eu profi ledled y cymoedd.